“Canmolwn yn awr ein Gwyr Enwog.”
Os ewch i heibio fferm Berthlwyd fe sylwch fod yna blac atyniadol ar wal y cartref erbyn hyn sy’n rhodd werthfawr ac arbennig gan Gymdeithas Cenedlaethol Hoelion Wyth i anrhydeddu yr annwyl Dai Jones. Gwyddom fod Dai bellach wedi ymddeol wedi hanner canrif o wasanaeth i’r Cyfryngau lle bu yn Hoelen Wyth wirioneddol. Mae’r geiriau ar y plac sydd wedi eu llythrennu mewn aur ar gefndir du mor addas i ddisgrifio’r bersenoliaeth ffraeth a llawn a wnaeth ddiwrnod da o waith.Plac urddasol i anrhydeddu person urddasol.
“Gwladgarwr a Thrysor Cefn Gwlad”
“Canwr. Darlledwr, Diddanwr.”
Diolch am weledigaeth y Gymdeithas yn sicrhau fod hyn wedi ei gwblhau a diolch hefyd i Charles Arch a John Watkin am ddwyn y maen (neu yn hytrach y plac) i’r wal. Mae’n werth ei weld! Anfonwn ein cofion anwylaf at Dai y dyddiau hyn.
Yn y rhifyn cyfredol o’r ‘Faner Newydd’ mae ‘r Prifardd Idris Reynolds wedi cyfansoddi englyn arbennig i Dai. Dyma fe:
“Ar awyr yr awyr iach – yn ifanc
Cest lwyfan y llinach
I ganu can amgenach
Hen ffordd o fyw ein ffridd fach.”


