Skip to content

NOSON GYMDEITHASOL YR HOELION WYTH

    Cynhaliwyd noson gymdeithasol arall gan Gymdeithas yr Hoelion Wyth, eto drwy gyfrwng zoom, a hynny ar nos Wener, Ebrill 16eg.

    Ein gwr gwadd y tro hyn oedd y Parchedig Tom Evans, Peniel ac estynodd Eurfyl groeso cynnes iddo. Ma Tom wedi cael gyrfa ddiddorol a llwyddiannus – bu’n weinidog, gweitho i Gymorth Cristnogol, darlithio yn y Drindod yng Nghaerfyrddin, cynhyrchu rhaglenni crefyddol ar gyfer Radio Cymru ac yn fwy diweddar, yn gwirfoddoli fel caplan gyda Heddlu Dyfed Powys.

    Cawsom hanes cryno o’i fagwrfa yng Ngheredigion, yn ogystal a’r swyddi amrywiol roedd wedi eu cyflawni. Canolbwyntiodd Tom yn benodol ar y naw mlynedd diwethaf, sef y cyfnod bu’n gwasanaethu fel caplan i’r heddlu. Pwrpas ei rol fel caplan yw bod yn gefn i swyddogion yr heddlu ac i’w cynorthwyo drwy gyfnode anodd. Daeth yn amlwg yn fuan iawn, fod Tom wedi cael pleser mawr o weithredu fel caplan, er gwaetha nifer o achosion trist a dirdynnol wnaeth effeithio’n fawr ar swyddogion Heddlu Dyfed Powys. Soniodd yn benodol am ddiflaniad April Jones ym Machynlleth, ac am yr effaith ofnadwyl cafodd ei llofruddiaeth erchyll ar aelode’r llu. Soniodd hefyd am y tan erchyll yn Llangammarch ym Mhowys, gymrodd fywydau tad a 5 o blant. Effeithiodd hyn hefyd yn fawr iawn ar swyddogion yr heddlu a bu galw mawr am wasanaeth Tom i’w cynorthwyo drwy gyfnod tu hwnt o anodd.

    Diolchodd Eurfyl, yn ddiffuant i Tom, am noson wirioneddol wych, fydd yn aros yn hir yn y cof ac ategodd nifer o’r aelode eu diolch hwythe yn ogystal.