Noson dathlu 50 Cymdeithas yr Hoelion Wyth

    Cynhaliwyd noson arbennig iawn yng Nghaffi’r Emlyn, Tanygroes ar nos Wener, Tachwedd 17eg i ddathlu hanner canmlwyddiant ers sefydlu Cymdeithas yr Hoelion Wyth.

    Cafodd cangen Aberporth ei sefydlu nol ym mis Medi 1973 gan griw o fois yr ardal. Roedd hi’n briodol i gynnal y dathliad yng Nghaffi’r Emlyn gan taw dyma lle bu cangen Aberporth yn cyfarfod ar hyd y blynyddoedd. Estynnodd Eurfyl Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth groeso cynnes i bawb cyn cyflwyno’r artistiaid gwadd sef Parti’r Camddwr, criw o fechgyn o ardal Bronant a Lledrod. Cafwyd noson wych o adloniant ganddynt, dan arweiniad Evan Williams a’i cyfeilydd sef Elisabeth James. Cyflwynwyd amrywiaeth helaeth o ganeuon yn cynnwys baledi, emynau, caneuon gwerin yn ogystal a caneuon cyfoes.

    Roedd yn addas hefyd  taw John Davies ( John y Graig ) oedd llywydd anrhydeddus y noson, gan taw ef oedd un o sylfaenwyr y gymdeithas. Cawsom araith wych ganddo a diolchodd Eurfyl yn ddiffuant iddo, cyn darllen penillion i’w gyfarch.

    Bu John Jones, Is Gadeirydd y gymdeithas yn darllen y gerdd wnaeth gyfansoddi yn arbennig ar gyfer y dathliad a diolchodd Eurfyl yn gynnes iddo fe hefyd. Diolchodd hefyd i Barti’r Camddwre am ein diddanu; i Lyn, Caffi’r Emlyn am gael cynnal y noson yno ac am roi’r stafell am ddim  ni; i Nigel Vaughan a Geraint Morgan, ei gyd swyddogion, am eu gwaith a’u cydweithrediad arferol ac yn olaf I’r gynulleidfa luosog am gefnogi’r noson.

    Tynnwyd gwobrau y raffl fawr, ( noddwyd gan Gaffi Beca, Efailwen ) yn ystod y noson a dyma’r buddugwyr :-

    £100 ( rhoddedig gan Dafarn Ffostrasol ) – Stuart John, Talacharn

    £50 ( rhoddedig gan Gwesty’r Talbot, Tregaron ) – Rhydian Bevan, Gelli

    £25 ( rhoddedig gan Glwb Bowlio Tregaron ) – Trefor Evans, Hendy Gwyn

    Gwnaed elw o £2500 o’r gwerthiant raffl a’r noson adloniant a byddwn yn cyflwyno’r arian i elusen Sefydliad DPJ yn fuan.

    Part Camddwr
    Cyflwyo rhodd bach i John

    Dathlu Hanner Can Mlynedd Cymdeithas yr Hoelion Wyth 1973-2023

    Hedfanodd hanner canrif, er sawl craith

    Yr hoelen sydd o hyd yn dal ei thir.

    Wynebodd stormydd heriol lawer gwaith…

    ‘Nid rhwd yw ei hanrhydedd’, dyna’r gwir.

    Bu John y Graig a Dic yn cynnau’r fflam

    yn Aber-porth un noson ger y tân,

    Gan daro hoelen wyth, a dechrau’r cam

    I creu ‘sôn mawr am rai hanesion mân’.

    Diwylliant, iaith, cymdeithas, dyna’r nod

    Dros beint wrth drafod holl ofidiau’r byd;

    A sawl gŵr gwadd ymunodd, nid er clod

    Ond ychwanegu’r cyfoeth, dyna i gyd.

    Ac i’n sylfaenwyr y mae arnom bwyth

    A dathlwn lwyddiant mawr ein hoelion wyth.

                                                                John Jones