Skip to content

Mehefin 2013

    Taith Ddirgel Blynyddol Aeth yr aelodau ar y daith ddirgel flynyddol ar brynhawn Sadwrn, Mehefin 15fed. Cawsom ein tywys i Lanerchaeron ger Ciliau Aeron lle gwelwyd arddangosfa wych o hen beiriannau a chreiriau o eiddo’r diwedddar Geler Jones. Roedd pawb yn rhyfeddu at y casgliad eang ac amrywiol . Cafwyd cyfle wedyn i ymweld â gweddill yr ystad gan gynnwys yr adeiladau fferm hynafol, y gerddi a’r plasdy. Bu pawb yn cymdeithasu dros ddished yng nghaffi Llanerchaeron cyn teithio nôl i gael swper blasus yn nhafarn Ffynone yng Nghapel Newydd. Cafwyd gwledd yma a phawb wedi mwynhau’r arlwy yn fawr, diweddglo perffaith i daith fydd yn aros am amser hir yn y cof. Cawsom gyfle hefyd cyn ffarwelio i ymweld yn sydyn â’r Ty Cregyn hynod sydd wedi ei leoli yng Nghilwendeg, roedd Trish Ford wedi dod yno i’n cyfarfod a chawsom ychydig o hanes y lle ganddi. Diolch i Hedydd a’i staff yn nhafarn Ffynone, i Trish Ford ac i Eurfyl am drefnu’r daith ac am yrru’r bws. Byddwn yn cyfarfod nesaf ar ddiwedd mis Medi. Diolch i’r aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn diwethaf ac edrychwn ymlaen at flwyddyn lewyrchus a llwyddiannus arall yn hanes Hoelion Wyth Beca.