Skip to content

Mehefin 2008

    Ar ddechrau mis Mai, cafwyd ‘Taith Ddirgel’ i gloi’r tymor. Ymwelwyd â stablau Peter Bowen yn Nhreletert a chafwyd croeso cynnes gyda dwy o’r merched oedd yn gweithio yno ac hefyd y mab. Bu’n dangos nifer o geffylau ac yn dweud eu hanes a chafwyd tipyn o wybodaeth am y cyfleusterau oedd yno; hefyd am y gwaith sy’n cymryd lle o ddydd i ddydd. Wedyn aeth pawb am bryd o fwyd yn y ‘Fishguard Hotel’ yn Hwlffordd. Hoffem ddiolch yn fawr i Mr. Ronnie Howells am drefnu’r noson a fwynhawyd gan yr aelodau i gyd.