Skip to content

MEDI 2023

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawodd y Cadeirydd, Claude James, pawb a oedd yn bresennol ar ôl seibiant yr haf a chafwyd munud o dawelwch I gofio’r aelodau a gollwyd yn ystod y flwyddyn a dymuno gwellhad i’r rhai nad oeddent yn bresennol oherwydd afiechyd.

    Estynnwyd croeso cynnes i’r siaradwr gwadd (un o’r aelodau) sef Rhys Phillips o Pwlltrap ac hefyd ei briod Eryl. Bu’r ddau ar eu gwyliau yn Seland Newdd llynedd a dyna oedd testun anerchiad Rhys gyda lluniau ar sgrin yn cyfoethogi’r cyflwyniad. Gadael Maes Awyr Heathrow ar y 3ydd o Dachwedd 2022 a chyrraedd Signapore, lle arhoswyd i dorri ar y daith. Fel y gwelwyd yn ôl y lluniau, roedd llawer I weld yn y wlad brydferth yma. Ymlaen wedyn a chyrraedd Ynys y Gogledd yn Seland Newydd. Roedd y gwyliau cyfan wedi ei drefnu ymlaen llaw gyda bws yn eu cludo o un golygfa a mannau diddorol i’r llall. Roedd Rhys ac Eryl wedi mwynhau’r gwyliau yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen i ymweld a’r wlad eto yn y dyfodol. Diolchwyd iddynt ar ran yr aelodau, gan Glyn Evans.

    Dosbarthwyd tocynnau raffl i’r aelodau, a fydd yn cael eu dynnu mewn cyngerdd i ddathlu’r Gymdeithas yn 50 oed, ar Dachwedd 27ain yn Neuadd Emlyn, Tanygroes gyda pharti Camddwr yn diddori.