Skip to content

Medi 2021


    Cyfarfu aelode’r gangen, am y tro cynta ers dros flwyddyn a hanner, ar nos Fercher, Medi 29ain. Roedd hi’n hyfryd cwrdd a’n gilydd gwyneb yn wyneb unwaith eto, yn hytrach na gweld ein gilydd ar sgrin fach, drwy gyfrwng zoom.


    Croesawyd pawb ynghyd gan Eifion Evans y Cadeirydd ac estynodd groeso arbennig i’r siaradwr gwadd sef Wyn Thomas o Bontsian. Ma Wyn yn gweitho’n rhan amser i Tir Dewi, elusen sefydlwyd gan Eileen Davies o Lanllwni nol yn 2015.


    Cawsom gyflwyniad gwych gan Wyn am y gwaith mae Tir Dewi yn ei gyflawni. Soniodd am sut wnaeth Eileen Davies, holi Wyn Evans, Esgob Tyddewi ar y pryd, am gefnogaeth ariannol i sefydlu elusen, er mwyn cefnogi ffermwyr sydd yn brwydro i ymdopi gyda’r pwysau a ddaw o redeg fferm. Dechreuodd Tir Dewi fel elusen fechan yn cynnig cefnogaeth i ffermwyr Siroedd Penfro, Ceredigion a Caerfyrddin, ond yn ystod y flwyddyn diwethaf, estynnwyd y gefnogaeth honno i Ogledd Cymru, Powys a Phenrhyn Gwyr.


    Hyd yn hyn, mae gwirfoddolwyr Tir Dewi wedi cynorthwyo dros 300 o deuluoedd ffermio gydag amrywiaeth o faterion, problemau, gofidiau ac heriau – ac mae’r nifer yn codi’n ddyddiol. Mae Tir Dewi yn cynnig llinell ffon gyfrinachol am ddim, gyda’r dewis o siarad yn Gymraeg neu Saesneg, 7 diwrnod yr wythnos, o 7 y bore tan 10 y nos.

    Mae pawb yn ymwybodol bod gweitho mewn amaethyddiaeth yn gallu bod yn ofnadwy o anodd. Mae’n gallu bod yn unig, gyda phwysau gwaith aruthrol, ac mae’r ffermwr yn aml yn gorfod cario’r pwysau hynny i gyd, heb fedru ei rannu gyda neb arall.


    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o waith papur ynghlwm wrth amaethyddiaeth, mae rheolau yn newid yn gyson, mae gofidiau wedi cynyddu ac mewn nifer o achosion, mae’r cymorth a’r gwmniaeth oedd yn nodweddiadol o gymunedau amaethyddol, wedi lleihau yn aruthrol.
    Pwrpas Tir Dewi yw bod ar gael i gynnal a chefnogi ffermwyr a’u teuluoedd drwy gyfnodau anodd, bod yn glust i wrando ac i gynorthwyo gyda pethau ymarferol fel gwaith papur neu alwadau ffon.
    Mae gan Tir Dewi 60 o wirfoddolwyr ac mae pob un ohonynt yn deall ffermwyr ac yn cydymdeimlo gyda’r problemau sy’n eu poeni. Nid oes y fath beth ag “annual”, “sick” neu “compassionate leave” ar gael i ffermwyr, mae’n rhaid iddynt gario mlaen. Ond mae cario mlaen gallu bod yn frwydr anodd iawn ar adegau, dyna pryd dylech ofyn am gymorth. Mae gwirfoddolwyr Tir Dewi yn barod i wrando a’ch cefnogi felly rhowch alwad iddynt ar 0800 121 4722.

    Diolchwyd i Wyn am anerchiad wych iawn gan Eifion a bu pawb yn mwynhau basned o gawl bendigedig ar ddiwedd y noson, diolch i Robert am hynny.
    Hyderwn bydd modd i ni ddod at ein gilydd eto ar nos Fercher, Hydref 27ain.