Skip to content

Medi 2019

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor ar Nos Iau, Medi 5ed yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.  Croesawodd y Cadeirydd, Claude James, bawb gan gynnwys un aelod newydd, sef Geraint Davies.  Cafwyd munud o dawelwch i gofio am Lyn Davies, Bancyfelin – aelod a fu farw yn ystod yr Haf.

    Y siaradwr gwâdd oedd Emyr Phillips o Gilgerran.  Estynwyd croeso iddo gan y Cadeirydd a hynny am yr eildro i un o’r cyfarfodydd.

    Roedd ei gyflwyniad wedi ei rannu i dair rhan, yn ymwneud â diddordebau ei fywyd a’i anerchiad yn cyd-fynd a lluniau  ar y sgrin.

    Yn gyntaf – “Dylanwad yr Olwyn”

    Mae pawb sy’n adnabod Emyr yn gwybod am ei ddiddordeb mewn hen geir, loriau ac yn y blaen.  Mae’n beiriannydd rhagorol ac wedi adnewyddu nifer o geir, o stad druenus, i fod fel newydd unwaith yn rhagor.  Bu’n dangos y ceir cyntaf y bu’n ymddiddori ynddynt yn ystod ei blentyndod yn Llangolman; hefyd yn yr hen loriau oedd yn gweithio yn chwareli llechi Y Gilfach, gerllaw.

    Hanes Lleol oedd yr ail ddiddordeb.   Yng Nghilgerran roedd yna chwareli a gwaith tun.  Agorwyd y chwarel llechi yn 1880 a phan gaewyd y gwaith tun, daeth y chwarel i’w anterth gan gyflogi mil o bobl.  Mae olion rhai o’r hen offerynnau yno o hyd.

    Rheilffordd Maenclochog oedd y trydydd diddordeb.  Mae gan Emyr ddiddordeb mawr mewn rheilffyrdd a hen drenau gan gynnwys hen lein ‘Y Cardi Bach’.  Dechreuwyd sôn am y lein yn 1870 ond nid agorwyd y rheilffordd hyd nes 1878.  Chwarel Rosebush gadwodd rheilffordd i fynd o Glunderwen, Llanycefn a Maenclochog.

    Yn ystod y rhyfel, yn ddiddorol iawn, defnyddiwyd un o’r hen chwareli i berffeithio ‘bom’ er mwyn ceisio chwalu twneli yn yr Almaen!

    Bu’n noson hynod o ddiddorol a diolchwyd i Emyr gan Ithel Parri-Roberts am gyflwyniad o ddiddordeb i bawb.

    Cafwyd gwybodaeth am Ginio’r Dathlu (40 mlynedd) gan Mel Jenkins.