Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor ar Nos Iau, Medi 7fed yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.
Cyn cyflwyno’r siaradwr gwâdd, estynnwyd croeso gan y Cadeirydd, Claude James, i dri aelod newydd. Hefyd dymunwyd gwellhad buan i’r ysgrifennydd, Verian Williams sydd yn ysbyty Treforys ar hyn o bryd.
Croesawyd Mr. Alun Evans o Faenclochog – bu’n siarad am ei yrfa fel athro a prifathro. Yn wreiddiol o bentref Sarn ger Abersoch, lle pan yn blentyn bu bron iddo golli ei fywyd pan syrthiodd 40 troedfedd o glogwyn creigiog!
Erbyn hyn mae wedi ymddeol o fod yn Bennaeth Ysgol Caes Mal, Sir Benfro ar ôl 33 o flynyddoedd.
Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin yn arbenigo mewn Drama a Chelf yn benodol. Yn ystod ei gyfnod yno, bu Aneurin Jenkins Jones a John Davies (tad Angharad Mair) yn ddylanwad mawr arno.
Bu’n dysgu, dros dro, yn ysgolion Doc Penfro, Cilgerran, Mathry (lle bu’n brifathro dros dro) ac Ysgol Llanechllwydog, Cwmgwaun. Bu wedyn am gyfnod yn mynd o amgylch ysgolion yn dysgu Cymraeg.
Yn dilyn hyn cafodd ei benodi yn Bennaeth Ysgol Cas Mal. Yn yr ysgol hon cafodd y syniad o sefydlu ‘Oriel Luniau’ a chafodd gefnogaeth arbennig gan Kyffin Williams, Aneurin Jones ac Arthur Giardelli, i enwi ond tri. Cysylltodd â’r arlunwyr yma a chyfrannodd rhain luniau i’r Oriel.
Mae hefyd wedi ysgrifennu degau o lyfrau, yn cynnwys llyfrau addysgol i blant a llyfryn yn olrhain hanes pobl, yn cynnwys Barti Ddu a Jemima Niclas
Ei brif ddiddordeb, wedi ymddeol, yw ‘Cymdeithas Waldo’ ac mae’n un o Hoelion Wyth y Gymdeithas honno ac wedi cyhoeddi ‘Taith Waldo’ ar daflen a bu’n ddigon caredig i roi taflen i bob aelod oedd yn bresennol.
Cafwyd darlith hynod o ddiddorol, wedi ei chyflwyno yn ei ffordd ddihafal ei hun a diolchwyd iddo, ar ran pawb, gan Ithel Parri-Roberts.