Skip to content

Medi 2016

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor ar Nos Iau, Medi 1af yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Ar y dechrau cafwyd y cyfarfod blynyddol pan ail-etholwyd y swyddogion i gyd.

    Y siaradwr gwâdd oedd Dr. Denley Owen, Llanymddyfri. Yn wreiddiol o Ddyffryn Taf, cafdodd Denley ei addysg yn Ysgol Gynradd Penygaer ac Ysgol Ramadeg Hendygwyn; wedyn yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Bu’n gweithio gydag Awdurdod Ynni Atomig cyn mynd ymlaen i ddysgu yng Ngholeg Llanymddyfri.
    Ei ddiddordeb yw hanes pobol a hanes lleol ardal Dyffryn Taf ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr – un am deulu Powell, Plas Maesgwynne ac un ar fywyd trigolion Dyffryn Taf- “Taf Valley Lives” ac yn y llyfr hwn roedd ei gyflwyniad wedi ei seilio.

    Trwy gyfrwng lluniau cafwyd hanes a bywyd bob dydd pobol pentrefi’r ardal, fel Cefnypant, Llanglydwen a Llanboidy, yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Roedd y cartrefi gwyngalchog yn llwm a’r gwaith yn galed. Gwasanaethu ar ffermydd oedd gwaith y rhan fwyaf o’r dynion gyda’r gwragedd yn magu’r plant a gofalu am y cartref. Y capel a’r gweithgareddau ymghlwm wrtho, oedd canolbwynt eu diddordebau gyda’r Sul yn bwysig iawn yn eu bywydau.

    Yr oedd yn gyflwyniad diddorol dros ben a dysgwyd llawer am fywyd ein cyn-deidiau.
    Diolchwyd i Denley gan Mel Jenkins.