Skip to content

Medi 2015

    Y siaradwyr gwadd yn ein cyfarfod cyntaf o’r tymor oedd John Phillips, Esgairddaugoed, Cwmfelin Mynach. Cyflwynwyd ef i’r aelodau gan y cadeirydd ac eglurodd ei fod yn ddyn pwysig iawn gan ei fod yn Gadeirydd Prydain o gymdeithas y gwartheg Limousin.
    Siaradodd John am ei brofiadau ers iddo ddechrau cadw gwartheg Limousin. Dyn ei filltir sgwâr ydi John ac aeth i ysgol Ramadeg Hendy-gwyn a’r Daf lle bu’n astudio’r gwyddorau hyd at lefel A. Penderfynodd beidio mynd i brifysgol ond aros adre i weithio ar fferm ei rieni. Ymunodd â changen leol o’r Ffermwyr Ifanc a dywedodd bod ei ddyled yn fawr iawn i’r mudiad am yr holl brofiadau y cafodd tra’n aelod. Prynodd ei fuwch Limousin gyntaf wrth y teulu Thomas, Drisgol Goch, Llwyndrain ac ers hynny mae wedi bod yn ei magu a’i dangos mewn sioeau ledled y wlad yn llwyddiannus. Dywedodd bod y Limousin yn dod yn wreiddiol o ganolbarth Ffrainc ac ei bod yn fwy a fwy poblogaidd dros y byd erbyn hyn. Mae rhinweddau da i’r gwartheg. Maent yn hawdd i’w cadw a’i rheoli, yn lloia’n rhwydd ac mae canradd uchel iawn o’u cyrff yn gig eidion o ansawdd da. Ers yn aelod o gymdeithas y gwartheg mae wedi bod ar sawl trip dramor i wahanol gynadleddau. Soniodd am dair daith penodol.
    Taith i Gynhadledd yn Zimbabwe.
    Hedfan i’r prif ddinas Harare cyn mynd ymlaen i aros ar fferm fawr allan yn y wlad, fferm a oedd yn berchen i ddynion gwyn ond roedd y gweision a’r morwynion i gyd yn frodorion croen tywyll. Tra yn Zimbabwe aeth ar Saffari ac i weld un o rhaeadrau mwya’r byd sef rhaeadr Victoria lle mae’r afon Zambesi yn cwympo 108 metr. Soniodd hefyd am brofiad llai dymunol wrth deithio mewn awyren fach lle y daeth hi’n amlwg bod rhywbeth o’i le ar un o’r ddau beiriant!
    Taith i Gynhadledd yn Canada
    Cafodd y profiad o weld rhaeadr arall yma, sef rhaeadr Niagra ac hefyd aeth i fyny tŵr y C.N. yn Toronto, Ontario lle mae un llawr yn wydr clir, tua 342 m o wyneb y ddaear. Cafodd y pleser hefyd o deithio i ochr Orllewinol y wlad a chael ymweld a’r ‘stampede’ enwog yng Nhalgary, Alberta a’r llyn prydferth ‘Lousie’ yng nghanol mynyddoedd y ‘Rockies’.
    Taith i Gynhadledd yn yr Ariannin
    Taith hir ar awyren i Buenos Aires cyn hedfan ymlaen yn bellach allan i’r wlad. Tra yn Buenos Aires bu’n ymweld â’r farchnad cig eidion fwyaf yn y byd lle mae i fyny at 13,000 o wartheg yn cael ei gwerthu bob dydd, pedair gwaith yr wythnos. Tra allan yn y wlad cafodd y cyfle i flasu sawl stecen fawr hyfryd wedi eu coginio uwchben tân agored. Mwynhaodd bawb edrych drwy sawl albwm o luniau roedd John wedi eu cymryd yn ystod ei deithiau.
    Diolchwyd iddo gan Huw Griffiths ac ategwyd at hynny gan Eurfyl Lewis. Diolch hefyd i Rob am baratoi cawl ar ein cyfer.

    Hoelio 8 Beca-Llun John Phillips