Skip to content

Medi 2015

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn, nos Iau 3ydd o Fedi. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gangen lle penderfynwyd ail ethol y swyddogion i gyd am y tymor.

    Yn dilyn  y cyfarfod blynyddol croesawyd y siaradwr gwâdd sef  Y prifardd Eirwyn George o Faenclochog.  Mae’n cael ei gydnabod fel un o lenorion blaenllaw Cymru. Enillodd 14 o wobrau yn Adran Lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol o bryd i’w gilydd yn cynnwys y Goron ddwywaith, yn 1982 ac 1993. Cyhoeddodd hefyd 15 o gyfrolau yn cynnwys barddoniaeth, hanes, rhyddiaith greadigol a llyfrau iaith.

    Fe aeth â ni ar daith o’i blentyndod yn adrodd a  chystadlu yn eisteddfodau capeli Sir Benfro. Soniodd pryd y dechreuodd gyfansoddi a chystadlu ac ar adegau yn cystadlu yn erbyn ei dad a oedd hefyd yn fardd o fri. Cafwyd anerchiad diddorol dros ben ganddo, yn llawn hiwmor a diolchwyd iddo gan Mel Jenkins