Skip to content

Medi 2014

    Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca,; Efailwen ar nos Fercher,; Medi 24ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd sef Nigel Vaughan cyn iddo gyflwyno a chroesawu gŵ;r gwadd y noson sef Brian Jones o Dreletert. Bu Brian yn son am ei fagwraeth yng Nghroesyceiliog ger Caerfyrddin ac yn siarad yn benodol am y bobol fu’n ddylanwad arno yn ogystal â’r cymeriadau a’r enwogion fu’n byw yn yr ardal. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni a diolchwyd i Brian gan Eifion Evans. Roedd Robert wedi paratoi cawl bendigedig i bawb yn ôl ei arfer,; diolch Rob!; Y cwr gwadd ym mis Hydref fydd Meurig James,; Fferm Pengawse,; Hendy Gwyn,; croeso cynnes i aelodau newydd ymuno a ni.

    296i4p4
    Swyddogion y gangen gyda’r gŵr gwadd Mr Brian Jones