Skip to content

Medi 2014

    Cyfarfod busnes yn unig gynhaliwyd i ddechrau’r tymor. Bu’r aelodau yn cofio am un o aelodau ffyddlonaf y gangen sef Anthony Thomas a fu farw ar ddechrau’r haf.  Er iddo wella yn wyrthiol ar ôl llawdriniaeth, collodd Anthony y frwydr yn erbyn y salwch a ddaeth i’w ran yn ddiweddarach. Roedd y dyrfa a fu yn ei angladd yn dyst o’i boblogrwydd a’r parch tuag ato. Anthony oedd ysgrifennydd y gangen, yn trefnu siaradwyr gwâdd am flynyddoedd. Yr oedd hefyd yn Lywydd Cenedlaethol y mudiad.

    Dewiswyd Verian Williams yn ysgrifennydd newydd a diolchwyd iddo am gytuno i dderbyn y swydd. Ail-etholwyd y swyddogion eraill i gyd.