Skip to content

Medi 2013

    Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Medi 25ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd newydd sef Nigel Vaughan cyn iddo gyflwyno a croesawu gwr gwadd y noson sef Gordon Eynon, Plas y Bedw. Bu Gordon yn siarad am y diddordeb mawr sydd ganddo mewn rygbi ac yn sôn am sut wnaeth y gem ddechrau ac yn wir sut wnaeth ddatblygu gyda threigl amser. Roedd ei frwdfrydedd dros y gem yn amlwg i bawb ac mae ei gyfraniad i’r gem yn yr ardaloedd yma wedi bod yn un sylweddol iawn. Bu’n chware i dim rygbi Hendy Gwyn cyn mynd i’r coleg ac wedi iddo gychwyn ar ei yrfa dysgu bu’n chwarae am gyfnod i dim Gwernyfed. Sefydlwyd clwb rygbi Crymych yn 1984 a bu’n drostynt tan iddo hongian ei esgidiau a cymryd swydd fel ysgrifennydd y clwb. Bu’n cyflawni’r swydd yma gyda graen a hyn fu’n bennaf gyfrifol iddo gael ei ethol yn gynrychiolydd ar Ranbarth H gyda Undeb Rygbi Cymru, swydd sy’n rhoi boddhad mawr iddo. Cawsom gwis ganddo i gloi noson hynod o ddiddorol, diolchwyd i Gordon gan Gareth Griffiths. Roedd Robert wedi paratoi basned o gawl bendigedig i bawb ar y diwedd – diolch Rob!