Skip to content

Medi 2012

    Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Medi 26ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef Tudur Lewis, un o aelodau’r gangen. Mae Tudur yn gweithio i Menter Iaith Sir Benfro ac roedd wedi paratoi cwis ar ein cyfer, y cwetiynau i gyd a chysylltiad a Chymru. Bu’n pwysleisio pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yn ein bywyd beunyddiol gan gynnwys llenwi ffurflenni megis treth incwm mewn yn Gymraeg a gwneud defnydd o wasanaethau Cymraeg gan y banciau, swyddfeydd post, cwmnie ynni ac ati. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Huw Griffiths. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – hyfryd iawn!

    91gx9x
    Ken Thomas, Henry Morris a Lynn Howells yng nghwmni gwr gwâdd y noson sef Tudur Lewis.