Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Medi 21ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu gŵr gwâdd y noson sef Emyr Phillips o Gilgerran. Bu Emyr yn sôn am y diddordeb mawr sydd ganddo mewn atgyweirio hen beiriannau megis ceir, faniau a bysiau ac yn dangos sleidiau yn cofnodi’r gwahanol gymalau, yn amrywio o dderbyn cerbyd rhwdlyd hyd at ei adnewyddu i’w gyflwr gwreiddiol gogoneddus. Cafwyd noson hynod ddiddorol yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Tudur Lewis. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ôl ei arfer – hyfryd iawn!