Skip to content

Medi 2011

    I agor y tymor croesawodd y Cadedirydd, Ithel Parri Roberts, y siaradwr gwâdd, sef Y Canon Geoffrey Gainer. Cafwyd ganddo grynodeb trylwyr o’i ymweliad â Romania ac roedd pawb yn rhyfeddu sut oedd yn medru cofio’r holl leoedd a’r bobl a fu’n cyfarfod â nhw ar ei daith. Diolchwyd yn gynnes iddo am araith ddiddorol, gan Mr. Arthur Collinge. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol wedyn ac fe benodwyd y swyddogion canlynol:- Cadeirydd – Mr. Eric Hughes; Is-Gadeirydd – Mr. Wyn Evans Tysorydd – Mr. Dewi James; Ysgrifennydd – Mr. Anthony Thomas. Swyddog Adloniant – Mr. Mel Jenkins.