Skip to content

Medi 2010

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor newydd yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Medi 29ain. Cafwyd gair o groeso gan yr Is gadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu g[r gwâdd y noson sef Aled Rees o Benyparc. Roedd yntau wedi paratoi cwis ar ein cyfer a cafwyd tipyn o hwyl yn ateb y cwestiynau amrywiol. Bu hefyd yn sôn am y profiadau gwych gafodd wrth gystadlu ar y rhaglen Fferm Ffactor S4C ac am y boddhad gafodd wrth ddod i’r brig ac ennill Isuzu newydd sbon! Diolchwyd iddo am noson wych gan Wyn Evans a darllenodd y pennillion canlynol o’i waith i’w gyfarch. Taith i Lanberis Teithiodd yr aelodau i Lanberis ar fore Gwener, Awst 13eg. Cafwyd egwyl am ginio ym Machynlleth a cyfle i dynnu lluniau tu allan i Senedd Dy Owain Glyndwr yn y dref cyn parhau ar ein taith. Wedi cyrraedd Llanberis aethom i ymweld a Dinorwig lle maent yn cynhyrchu trydan drwy dynnu dwr o’r llyn gerllaw. Cludwyd pawb mewn bws i grombil y mynydd lle cawsom wybod sut oedd popeth yn gweithioyno gan ein tywysydd. Roedd pawb yn rhyfeddu ar sut gyflawnwyd y fath gampwaith ymhell o dan ddaear. Roedd gweddill y dydd yn rhydd gennym i ymlacio yng ngwesty Llyn Padarn lle buom yn gwledda’r noson honno, rhaid canmol y bwyd hefyd,wedd e’n fendigedig. Codi’n gynnar fore Sadwrn a dal y tren cyntaf lan i gopa’r Wyddfa. Roedd hi’n fore digon diflas yn Llanberis ond dipyn yn waeth ar y copa – nid oeddwn yn gallu gweld ymhellach na’n trwyne yn anffodus! Roedd Hafod Eryri sef y caffi newydd ar gopa’r Wyddfa yn ddigon o ryfeddod er trueni na fyddai’r adeilad ychydig fwy o faint. Teithio nol ar y tren ac yna ymweld ag Amgueddfa Lechi Llanberis. Lle diddorol arall yn dod a hanes yn fyw o flaen ein llygaid. Cawsom gyfle i weld un o’r gweithwyr yn trin llechi, gwylio hen fideo o chwarelwyr wrth eu gwaith, dysgu am bwysigrwydd y diwydiant lechi pan oedd yn ei anterth yn ogystal a’r caledi a’r peryglon oedd yn gwynebu’r chwarelwyr wrth eu gwaith beunyddiol. Gadael Llanberis ac yna ymweld a’r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd sef cartref Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu. Cawsom ein croesawu yno gan Gerald Williams, nai Hedd Wyn ( a tipyn o gymeriad! ) sy’n byw gerllaw. Bu yntau’n dangos y Gadair Ddu i ni ac hefyd yn rhoi ychydig o hanes bywyd Hedd Wyn. Diolchwyd i Gerald am yr hanes ac hefyd i Clive am lwyddo i dywys y bws i fyny at yr Ysgwrn ac oddi yno!! Bant a ni eto a teithio am dipyn nes cyrraedd Aberystwyth. Roedd pryd o fwyd bendigedig wedi ei baratoi ar ein cyfer yn Llety’r Parc a cafodd Tyrel, Gareth a Huw dipyn o syndod i gyfarfod a perthynas iddynt yno sef y Parchedig D Ben Rees o Lerpwl. Dyma ddiwedd glo hyfryd i daith fendigedig. Diolchodd Ken i Eurfyl am wneud yr holl drefniadau ac i Clive am ein tywys yn ddiogel. Ariannwyd rhan o’r daith gan Arian i Bawb ac roedd yr aelodau yn unfrydol fod y daith wedi bod yn un addysgiadol, diddorol ac hwylus!

    2zdrvhd
    Henry Morris, Gareth Griffiths, Ken Thomas ac Eurfyl Lewis yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.