Skip to content

Medi 2009

    Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos fercher, Medi 30ain. Cafwyd gair o groeso gan Gareth Griffiths y cadeirydd newydd cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef Clive Edwards ( Clive Cwm Meils ) Bysiau Cwm Taf. Bu Clive yn esbonio sut y dechreuodd ei fusnes ac sut mae wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn un llwyddiannus iawn. Cafwyd noson hyfryd yn ei gwmni wrth iddo adrodd nifer o straeon difyr ( gwir mae’n debyg!!! ) gyda’i hiwmor arferol. Diolchwyd i Clive am noson fendigedig gan yrrwr bws arall sef Eifion Blaensawd. Bydd yr Hoelion yn cyfarfod nesaf ar nos Fercher, Hydref 28ain pryd disgwylir Hefin Wyn o Maenclochog i’n diddori – croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno a ni.