Skip to content

Medi 2009

    Yn noson agoriadol y mudiad yn Hendygwyn, dewiswyd swyddogion am y flwyddyn i ddod. Cadeirydd – Ithel Parri Roberts.Is-Gadeirydd – Mr. Eric Hughes Ysgrifennydd – Mr. Anthony Thomas Trysorydd – Mr. Dewi James Swyddog Adloniant – Mr. Ronnie Howells. Wedi’r cyflwyniad gan y Cadeirydd, bu Anthony Thomas yn diddori’r aelodau drwy roi manylion allan o ‘Llyfr y Ganrif’ a bu’n wers hanesyddol a diddorol. Diolchodd Mr. Wyn Evans iddo ar ddiwedd y noson. Bydd yr aelodau yn cwrdd bob Nos Fercher cyntaf y mis, yn y Clwb Rygbi am 8 o’r gloch. Mae croeso cynnes i aelodau hen a newydd i ymuno.