I agor y tymor croesawodd Mr. Ithel Parri Roberts aelod o’r Cynulliad, sef Nerys Evans. Cafwyd crynodeb o’i gwaith a’i dyletswyddau a bu’n ateb nifer o gwestiynau a ofynnwyd gan yr aelodau. Cafwyd noson arbennig a diolchodd Mr. Wyn Evans iddi ar ddiwedd y noson. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol ac ail-etholwyd y swyddogion i gyd. Mae croeso i unrhyw aelod, hen a newydd i ymuno â’r gangen; rydym yn cwrdd ar Nos Fercher cyntaf o bob mis, yn y Clwb Rygbi, Hendygwyn-ar-Daf am 8 o’r gloch.