Skip to content

Medi 2007

    Agorwyd y tymor newydd ar Nos Fercher, Medi 5. Y siaradwraig wâdd oedd Mrs Susan Phillips, Llangynin, yn cael ei chynorthwyo gan ei gwr, Don. Fe’i croeshawyd gan Mr Ithel Parri Roberts ac fe gafwyd grynodeb cyflawn, gyda nifer o luniau, o’i hymweliad a Pheru pan fu’n cerdded Llwybr yr Inca i godi arian tuag at Ofal Cancr Marie Curie. Bu’n noson ddiddorol, addysgiadol ac yn agoriad llygad o’r math o fywyd sydd yn y wlad honno. Llongyfarchiadau mawr iddi am gwblhau’r daith ac ar ddiwedd y noson, diolchodd Mr Mel Jenkins iddi am rannu ei phrofiad.