Skip to content

Mawrth 2024

    Fel arfer cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawyd pawb gan y cadeirydd Mr Claude James. I ddechrau eisteddodd pawb i lawr i fwynhau cawl bendigedig wedi ei baratoi gan Mrs Christine James. Wed i bawb orffen bowlen, neu ddau gan rhai, diolchwyd i Christine am y wledd gan y cadeirydd. Ef hefyd cyflwynodd y gwr gwadd am y noson sef Mr James Evans.

    Mab Glyn Evans, un o’n aelodau yw James a chafodd ei eni yng Nghros Inn, Llanon pan fu’r teulu yn byw ac yn ffermio yng Ngheredigion. Soniodd James ei fod wedi ymddiddori yn gynnar yng ngherddoriaeth gan ddechrau dysgu chwarae’r piano yn saith oed. Er mwyn cael mwy o gyfleoedd cerddorol symudodd i Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth. Yno fel aelod o gôr llwyddianus yr ysgol cystadleuwyd yn nifer o Eisteddfodau’r Urdd ac hefyd Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Yno cafodd y profiad o ganu gyda Syr Bryn Terfel.

    Symudodd wedyn i Ysgol Penweddig lle eto cafodd digon o gyfleoedd i berfformio yn eisteddfodau a chael llwyddiant yn arbennig gyda’r parti bechgyn. Ar ôl gwneud yn dda iawn yn yr ysgol, llwyddo i gael lle yng Ngholeg yr Iesu Caergrawnt. Er mai Saesneg oedd yn astudio yn y coleg, treuliodd llawer o’i amser yn perfformio gan ei fod yn aelod o fand ac hefyd actio, a sefydlodd gymdeithas Jazz yno. Ar ôl gadael coleg bu’n dysgu yn Ysgolion Bro Myrddin, Preseli ac ar hyn o bryd yn gweithio yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd. Mae’n cadw’n brysur gan berfformio gyda gwahanol fandiau ac yn aelod a ddau gôr. Mae hefyd wedi trefnu nifer o gyngherddau yn lleol gan gasglu arian mawr at wahanol elusennau.

    Rhwng son am wahanol gyfnodau yn ei hanes bu James hefyd yn rhoi hanes rhai o’n caneuon adnabyddus: Ar Lan y Mor, Myfanwy, Sosban Fach, Rachie, Delilah a Sosban Fach. Rhoddodd hanes darddiad y caneuon a sut oeddynt wedi datblygu. Y rhan fwyaf ohonynt wedi dod o draddodiad yr eisteddfod, capel neu’r pyllau glo. Ar ôl son am gân roedd disgwyl i’r aelodau ganu’r gân gyda James yn cyfeilio ar yr allweddellau.

    I orffen cafwyd hanes Hen Wlad Fy Nhadau, gyda James yn dweud mai hon oedd yr anthem gyntaf mewn unrhyw gamp i gael ei chanu cyn gêm rhyngwladol. Hyn yn 1905 pan yn chwarae’r Crysau Duon. Gorffenwyd y noson trwy gyd ganu’r anthem.

    Diolchwyd i James am noson addysgiadol a ddiddorol iawn gan Mr Dewi James.