Skip to content

Mawrth 2022

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth ar nos Iau, y 3ydd yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.
    Cyn cynnal y cyfarfod arferol, cafodd yr aelodau fasned o gawl blasus a baratowyd gan Sarah ar ran y Clwb a diolchwyd iddi gan Claude James, y cadeirydd. Yn garedig iawn, daeth Verian Williams a bocsed mawr o bice-ar-y-maen a wnaed gan ei briod, Margaret – diolch yn fawr i’r ddau.

    Yn dilyn, a chyn dechrau’r cyfarfod arferol, cafwyd munud o dawelwch i feddwl ac i gofio am drigolion yr Wcrain yn eu trallod.
    Dymunwyd yn dda i Dewi James ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei lygad.
    Y siaradwr gwadd oedd Teifryn Williams o Aberdaugleddau ac estynnwyd croeso iddo gan y cadeirydd. Brodor o ardal Efailwen yn wreiddiol ac yn nai i’r enwog Waldo Williams.
    Cafodd radd mewn Hanes a Sbaeneg o Brifysgol Aberystwyth; mae wedi cael bywyd llawn – o fod yn gweithio ar fferm ym Mlaenwaun, yn werthwr llaeth ac yn berchen busnes yn gwerthu rhannau ceir. Yn awr mae’n dywysydd i bobl sy’n dod ar eu gwyliau i Sir Benfro.
    Mae ganddo ddiddordeb mewn beics a beicio, a dyna oedd byrdwn ei gyflwyniad.
    Mae’n berchen ar nifer o feics ac wedi beicio yn Sbaen, Llydaw a Patagonia. Yr hyn gafwyd ganddo oedd hanes ei daith, ar feic, yn dilyn taith Mari Jones pan aeth i brynu Beibl.
    Disgrifiodd y daith yn fanwl o’r dechrau i’r diwedd ac’roedd yr hanes yn ddiddorol dros ben.

    Cafwyd sesiwn byr o holi ac ateb a diolchwyd iddo gan Ithel Parri Roberts.