Skip to content

Mawrth 2020

    Yng nghyfarfod mis Mawrth bu’r aelodau yn dathlu Gŵyl Dewi gyda Noson Gawl. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd, Claude James.
    Yn lolfa’r Clwb Rygbi roeddwn, fel arfer, a mwynhawyd basned o gawl arbennig wedi ei baratoi a’i weini gan Christine James. Diolchwyd iddi gan y Cadeirydd.

    Yn dilyn y cawl cafwyd awr o adloniant gan un o’r aelodau, sef Geraint Davies. Mae Geraint yn byw yn Llanddewi a chafwyd hanes ei fywyd a’i yrfa. Bu’n athro mewn ysgolion yn Sir Benfro am dros bymtheg mlynedd cyn newid ei yrfa a mynd i weithio i Gyngor Sir Benfro, i ddiweddaru eu gwefan.
    Cafwyd llawer stori ddoniol ganddo ac ambell gân i gyfeiliant gitâr. Bu’n noson hwylus a diolchwyd i Geraint gan John Arfon a fu, flynyddoedd yn ôl, yn athro yn yr Ysgol Ramadeg, Hendygwyn.