Skip to content

Mawrth 2019

    Yn ein cyfarfod mis Mawrth daeth yr aelodau ynghyd i ddathlu gŵyl ein Nawddsant. Ar ôl ymgynull yn lolfa y Clwb Rygbi croesawyd ni gan y Cadeirydd i’r byrddau i fwynhau y cawl hyfryd a drefnwyd ar ein cyfer.

    Ar ôl mwynhad y cawl a’r cymdeithasu cawsom adloniant hwylus gan nifer o’r aelodau yn cyfrannu eitemau o’u hoff farddoniaeth, eraill yn rhannu hanesion am ddechreuad y gangen ddeugain mlynedd yn ôl, gan ystyried sut byddwn yn dathlu y garreg filltir hanesyddol yma, ac i orffen adroddwyd rhai storiau doniol – heb enwi neb!