Skip to content

Mawrth 2015

    Cynhaliwyd cyfarfod Mis Mawrth o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 25ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Nigel Vaughan ac fe wnaeth ddiolch a llongyfarch aelodau o’r gangen am y llwyddiant yn yr Eisteddfod. Diolchodd yn arbennig am waith Eurfyl i drefnu’r noson ac am ei gyfraniad unigol i ennill gymaint o bwyntiau tuag at y sgôr terfynol. Aeth ymlaen i gyflwyno a chroesawu gŵr gwadd y noson sef W John Davies o ardal Hendy-gwyn a’r Dâf. Roedd John yn gyn-aelod o’r gangen yma ac mae wedi ysgrifennu llyfr yn ddiweddar sy’n sôn am ei brofiadau yn y byd amaeth – ‘Farming for Better Profitability’. Yn ystod y cyflwyniad bu John yn ein cyfeirio at gynnwys y llyfr sy’n nodi pethau mae wedi dysgu drwy ei brofiadau dros y blynyddoedd. Bu’ sôn am wartheg gwyllt, cof gwartheg a lloi, mwydon, iogwrt byw ac ansawdd tirwedd a llawer o bethau arall. ‘Roedd yn amlwg yn frwdfrydig iawn am y pynciau yma a bu’n siarad am dros awr a hanner. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn ei gwmni a diolchwyd i John gan Lawrence Bowen. Roedd Robert wedi paratoi cawl bendigedig yn cynnwys moron arbennig. Diolch yn fowr iawn i Robert ac y John am y moron.

    John yn mwynhau ei gawl!

    IMG_6688 John Davies