Skip to content

Mawrth 2012

    Cynhaliwyd pumed cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng Nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 28ain. Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd Lyn Howells cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef y Parchedig Aled Huw Thomas, ffeirad Llandudoch a Nanhyfer. Bu Aled yn son am ei yrfa gan ganolbwyntio’n bennaf ar y cyfnod bu’n gaplan yn y fyddin. Bu yntau a’i deulu’n byw mewn sawl gwlad dros y byd yn ystod y cyfnod hwn ond llwyddodd er hynny i fagu’r plant yn Gymry Cymraeg. Dangosodd nifer o arteffactau roedd wedi casglu yn ystod ei gyfnod gyda’r Fyddin ac esboniodd beth oedd y cyfan yn ei olygu iddo. Diolchwyd i Aled am noson ddiddorol iawn gan Eifion Evans.