Skip to content

Mawrth 2012

    Aeth yr aelodau ar wibdaith ar Fawrth 24 a hoffem ddiolch yn fawr i Cynwyl Davies am wneud y trefniadau. Ymwelwyd â’r Pwll Mawr (Big Pit) ym Mlaenafon. Cafwyd diwrnod braf ac yr oedd yn agoriad llygaid i gerdded o gwmpas a mynd lawr i ddyfnderoedd y Pwll a gweld sut yr oedd y dynion a’r plant yn arfer gweithio o dan amgylchiadau mor galed. Cafwyd amser i weld yr Amgueddfa yno cyn symud ymlaen i Caerlleon-ar-Wysg i weld yr ‘Amphitheatre’ a’r Amgueddfa yno hefyd. I ddiweddu’r diwrnod cafwyd pryd blasus o fwyd yn y ‘Buck Inn’ Pontlliw. Bu’n ddiwrnod pleserus a’r cyfan a welwyd yn dal yn y cof am amser maith.

    25sxwjq
    Howard Andrews, Mel Jenkins ac Anthony Thomas yn barod i fyn lawr y Pwll Mawr ym Mlaenafon