Skip to content

Mawrth 2011 – Eisteddfod yr Hoelion Wyth

    Cyfarfu’r Hoelion yng nghaffi Beca Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 30ain. Croesawyd pawb ynghyd gan y cadeirydd Gareth Griffiths ac yntau hefyd gyflwynodd gŵr gwâdd y noson sef y Rhingyll Keith Gibby o Faenclochog. Mae Keith yn hyfforddi a trin cŵn gyda Heddlu Dyfed Powys a daeth a dau ohonynt gydag ef ar y noson. Bu Jac y spaniel yn chwilio a chael gafael ar gyffurie roedd Keith wedi eu cwato yn y caffi a bu’n dangos hefyd sut mae’r alsation yn dal drwg weithredwyr (roedd digon o ddewis ar gael y noson honno yn y caffi!!!!) . Maent yn cael ei defnyddio hefyd i chwilio am bobl sydd ar goll, i ganfod bomiau, rheoli tyrfa afreolus yn ogystal â therfysg. Roedd yn amlwg fod Keith wrth ei fodd yn gwneud y gwaith a chafwyd noson fendigedig yn ei gwmni. Diolchwyd iddo am noson hynod ddiddorol gan Nigel Vaughan. EISTEDDFOD YR HOELION WYTH Cynhaliwyd Eisteddfod Ffug blynyddol yr Hoelion Wyth yng nghaffi’r Emlyn, Tanygroes ar nos Wener, Mawrth 4ydd. Arweinydd y noson oedd Mr Rhys Vaughan Jones, Parcllyn a’r ddau feirniad oedd Rhian Medi Jones, Cilgerran a Jonathan Rees, Penmorfa. Cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau llwyfan i gangen Beca a chyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf hefyd i Beca. Cyflwynwyd Tlws Aberporth i’r eitem orau ar y llwyfan i gangen Hendy Gwyn. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri gan Islwyn Morgan, Sion Cwilt a’r goron am ysgrifennu limrig gan Garnon Davies, Sion Cwilt – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cafwyd noson fendigedig yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Ken Thomas i Rhian Medi Jones a Jonathan Rees am feirniadu, i Rhys Vaughan Jones am arwain y noson, i berchennog Caffi’r Emlyn am ddarparu bwyd blasus ac am gael cynnal yr Eisteddfod yno, i John Davies am drefnu’r noson ac i aelodau pob cangen am eu cefnogaeth. Dyma’r canlyniadau :- Deuawd / Triawd 1. Eurfyl, Wyn a Meredydd, Beca 2. Breian a Dafydd, Sion Cwilt Dweud Joc 1. Hywel Lloyd, Sion Cwilt 2. Anthony Thomas, Hendy Gwyn 3. Hywel Llewellyn, Beca 4. Dai Gorwel, Aberporth Sgets 1. Sion Cwilt 2. Beca Parti Goradrodd 1. Beca 2. Sion Cwilt 3. Hendy Gwyn Côr 1. Beca 2. Sion Cwilt 3. Hendy Gwyn Brawddeg ar y gair “Danto” 1. Ithel Parri Roberts, Hendy Gwyn 2. Eurfyl Lewis, Beca 3. Meredydd Richards, Beca Limrig – Rwy’n dechre heneiddio rwy’n credu 1. Garnon Davies, Sion Cwilt 2. Wyn Evans, Beca 3. Meredydd Richards, Beca Cyfarchiad ar garden priodas William a Kate 1. Meredydd Richards, Beca 2. Calfin Griffiths, Sion Cwilt 3. Calfin Griffiths, Sion Cwilt Cerdd Ddigri ar y testun “Unrhyw ran o’r corff” 1. Islwyn Morgan, Sion Cwilt 2. Wyn Evans, Beca 3. Ken Thomas, Beca Cinio Blynyddol Cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yn nhafarn y Bont, Llanglydwen ar nos Wener, Ionawr 21ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths ac offrymwyd gras gan y Parchedig Emyr Wyn Thomas. Cawsom wledd arbennig wedi ei pharatoi gan Gwennie James, Enfys a Donna ac yna croesawodd Gareth y gwr gwadd sef Peter Hughes Griffiths o Gaerfyrddin. Cafwyd araith wych ganddo yn llawn hiwmor a bu’n pwysleisio cymaint o ddylanwad cafodd merched ar ei fywyd – “dyna lwcus fues i” oedd byrdwn ei neges i ddod o dan ddylanwad merched talentog, cydwybodol a brwdfrydig – yn benodol athrawes yr ysgol a’r ysgol Sul a Nora Isaac darlithydd yng ngholeg y Drindod. Diolchodd Roy Llewellyn i Peter am araith hyfryd ac yna bu Wyn Evans yn darllen yr englynion canlynol o’i waith i gyfarch Peter :- Diolchodd Gareth i Gwennie, Enfys a Donna am y wledd hyfryd, i’r gwr gwadd Peter Hughes Griffiths, i Eurfyl a Henry am drefnu’r noson ac i bawb am gefnogi.

    14nh3sy
    Huw Griffiths, Cangen Beca yn arwain y côr buddugol