Skip to content

Mawrth 2010

    Cynhaliwyd Eisteddfod Ffug blynyddol yr Hoelion Wyth yng nghaffi Beca Efailwen ar nos Wener, Mawrth 5ed. Arweinydd y noson oedd Mr Huw James, Tyddyn a’r ddau feirniad oedd Rhys ap Hywel, Llanegwad ac Iwan Williams, Bridell. Diolch o galon i’r tri am eu gwasanaeth gwirfoddol Bu criw teledu Cwmni Da yn ffilmio ychydig o’r Eisteddfod ar gyfer rhaglen “Pethe” ar S4C ac mae’n dda i gyhoeddi fod cryn ddiddordeb wedi cael ei ddangos yng ngweithgareddau’r Hoelion yn sgil hynny. Cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau llwyfan i gangen Sion Cwilt a chyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf i Beca a Sion Cwilt. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri gan Eurfyl Lewis, Beca a’r goron am ysgrifennu telyneg gan Claude James, Hendy Gwyn – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cafwyd noson fendigedig yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Ken Thomas i Rhys ap Hywel ac Iwan Williams am feirniadu, i Huw Tyddyn am arwain y noson yn wych, i Robert James am ddarparu cawl blasus ac am gael cynnal yr Eisteddfod yng nghaffi Beca, i Eurfyl am drefnu’r noson ac i aelodau pob cangen am eu cefnogaeth. Cynhaliwyd raffl ar y noson ac mae swm o £175 wedi ei gyflwyno i Cymorth Cristnogol, apel Haiti erbyn hyn. Côr 1. Beca 2. Sion Cwilt 3. Aberporth 4. Hendy Gwyn Brawddeg ar y gair “Gwefan” Meredydd Richards, Beca Limrig – Aeth William a’i wraig ar saffari Elfed Howells, Sion Cwilt Brysneges ar y lythyren H Eurfyl Lewis, Beca Telyneg ar y testun “Ffenest” Claude James, Hendy Gwyn Cerdd Ddigri ar y testun “Priodas” Eurfyl Lewis, Beca Brawddeg – Gwefan Guinness wedd eli fy adfywiad neithiwr Limrig Aeth William a’i wraig ar saffari, I weled y teigr a’r mwnci, Ond gorila mawr du, A ffansiodd hi, Nawr mae’n disgwyl nid babi ond gor-abi! Brysneges H Hedfanodd Harrier Heibo Horeb Heddi Cynhaliwyd pumed cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Mawrth 31ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths cyn iddo groesawu gŵr gwâdd y noson sef Peter Lewis o Crymych. Mae yntau yn ffensio o gwmpas ffermydd yr ardal ers blynyddoedd bellach ac mae galw mawr am ei wasanaeth. Bu Peter yn rhoi hanes ei daith i Seland Newydd i ni ac yn dangos sleidiau a ffilm o’i ymweliad. Cafwyd noson hyfryd yn ei gwmni a diolchwyd iddo am noson ddiddorol iawn gan Gareth. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – bendigedig! Bu cwmni teledu Cwmni Da yn ffilmio ychydig o Eisteddfod flynyddol yr Hoelion yng nghaffi Beca ar ddechrau mis Mawrth a gwelwyd nifer o’r aelodau ar rhaglen Pethe ar S4C ddiwedd mis Mawrth.