Skip to content

Mawrth 2009

    Cynhaliwyd yr Eisteddfod flynyddol rhwng y canghennau yn y Clwb Rygbi ar Nos Wener, Mawrth 6ed. Y beirniad gwâdd oedd Y Parchg. John Gwilym Jones ac fe gafwyd noson lwyddiannus gan iddo gyfrannu yn helaeth at y gweithgareddau. Er nad oedd y noson yn ffafriol i’r gangen, fe gipiodd John Arfon Jones y goron am y delyneg. Y gangen fuddugol oedd Beca. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y cystadlu; hefyd i Phillip a Susan am y croeso ac am baratoi’r cawl blasus. Noson i’w chofio!