Skip to content

Mawrth 2009 – Eisteddfod yr Hoelion Wyth

    Cynhaliwyd Eisteddfod Ffug blynyddol yr Hoelion Wyth yng nghlwb rygbi Hendy Gwyn ar Daf ar nos Wener, Mawrth y 6ed. Arweinydd y noson oedd Anthony Thomas, Meidrim a’r beirniad oedd y cyn Arch Dderwydd John Gwilym Jones, Peniel. Cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen â fwyaf o bwyntiau yng nghystadlaethau llwyfan i gangen Sion Cwilt a chyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf i gangen Beca. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri gan Ken Thomas, Beca a’r goron am ysgrifennu telyneg gan John Arfon Jones, Hendy Gwyn – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Diolchodd Ken Thomas i John Gwilym Jones am feirniadu, i Anthony Thomas am arwain, i Susan am ddarparu cawl blasus ac am gael cynnal yr Eisteddfod yn y clwb rygbi ac i bob cangen am gefnogi eleni eto. Dyma’r canlyniadau:- Dweud Jôc 1.Hywel Gas, Sion Cwilt 2.Hywel Llewellyn, Beca 3.Cyril Evans, Hendy Gwyn Sgets 1.Sion Cwilt 2.Hendy Gwyn 3.Beca Côr 1.Beca 2.Sion Cwilt 3.Hendy Gwyn Brawddeg ar y gair Arbenigwr 1.Eurfyl Lewis, Beca 2.John Arfon Jones, Hendy Gwyn 3.Meredydd Richards, Beca Limrig – Aeth Sian i ferlota’n ddiweddar 1.Ian ap Dewi, Sion Cwilt 2.Eurfyl Lewis, Beca 3.Meredydd Richards, Beca Brysneges ar y lythyren A 1.Eurfyl Lewis, Beca 2.Eifion Evans, Beca 3.Meredydd Richards, Beca Telyneg ar y testun Hwylio 1.John Arfon Jones, Hendy Gwyn 2.Wyn Evans, Beca 3.Eurfyl Lewis, Beca Cerdd Ddigri ar y testun Tywysog 1.Ken Thomas, Beca 2.Calvin Griffiths, Sion Cwilt 2.Wyn Evans, Beca 3.Calvin Griffiths, Sion Cwilt Brawddeg – Arbenigwr Am rygbi bendigedig ewch nawr i gefnogi Warren – rŵan! Eurfyl Lewis Limrig Aeth Sian i ferlota’n ddiweddar, Yn gwmni aeth Dai yn betrysgar, Am beth ddigwydd wedyn, Ynghanol y rhedyn, Bydd Dai yn dragwyddol ddiolchgar. Ian ap Dewi Brysneges A Alistair Annwylaf, Argyfwng ariannol, amser anodd, ansicrwydd, anobaith, annibendod, angen arweiniad. Amdani! Eurfyl Lewis Telyneg – Hwylio Gwelaf gwch yn cychwyn Gyda thoriad gwawr, Dau sydd ynddo’n rhwyfo Dros y moroedd mawr. Glas yw’r dyfroedd heddiw Glasach yw y nen, A’r ddau yn dal i rwyfo Tua’r Ynys Wen. Cariad ydyw’r rhwyfau Ddwg y daith i ben, A dim ond cariad dwyfol Ddwg gwch i’r Ynys Wen. John Arfon Jones Cerdd Ddigri – Tywysog Mae un peth yn fy mecso Ers blwyddyn chwe deg naw, Fod Sais yn D’wysog Cymru A minnau’n rhydd fy llaw. ‘Rwy’n cofio eistedd fan co’ Yn disgwyl galwad ffôn, Bob tro y canau’r byger We’n i’n neidio mas o nghrôn. ‘Rwy’n cofio un nos Sadwrn Tra’n eistedd wrth y tân, A minnau’n slwmran cysgu, ‘Rown wedi blino’n lân. Y slwmran aeth yn drwmgwsg, A’r trwmgwsg aeth yn gâs, Ces hunllef mwyaf ffiaidd, Fe wedai’r stori’n frâs. ‘ Rown yno yng Nghaernarfon, A’r castell yn llawn dop, Fe gerddodd hwn i’r canol A’i gluste’n mynd fflip fflop. Ble gafodd e yr hawlfraint I gymryd y fath swydd? Gwnaeth rhywun eitha ‘gock up’, Dyw maddau ddim yn rhwydd. Aeth lawr ar ei benglinie A’i fami oedd o’i flân, Fe dynnodd gleddyf enfawr A gwaeddes, “Uffern dân”. Fe’i cododd lan i’r awyr, Meddyliais, ‘gan bwyll nawr’, Ond lawr a ddaeth y cleddyf Peth nesa’, clust ar lawr. Wel, whare teg i mami Doedd miso ddim yn rhwydd, Daeth paramedics heibio A’i blastro mewn sâm g[ydd. Meddyliwch nawr am funud, Pe gwnai ei swydd yn gloi Fe adiai at y picil, Dim un clust gan y boi. Fe alwes adre’i Mari, Daeth hithe at y ffôn, Gofynais iddi’n dawel, “Wyt ti’n ffansïo brôn”? ‘Roedd gwâd yn llifo i bobman, A mami nawr ar lawr Ac yntau’n ddigon simsan Dim siap o gwbwl nawr. Y clust oedd yno’n fad-fyw Yn hopo ar y llech, Damshelais innau arno, Fe roddodd yntau sgrech. Os bosib fod e’n teimlo Yn awr a’i glust ‘n y llwch, Rhois wasgad arall iddo, Fe waeddodd yntau’n uwch. Roedd yntau nawr yn gwegian Wedi colli lot o wâd, Fe gododd ar ei eistedd A gweiddi, “God, i’m bâd”. Yng nghanol ei holl wendid Fe ddwedodd wrtho i, “Rwyf wedi penderfynnu ‘Dyw hon ddim job i fi.” Meddyliais wrth fy hunan A dwedais wrth y Cwîn, “I’m ready to take over From him, your son’s not keen”. Ar unwaith daeth ‘na ole, We hwn ddim ishe’r job, Cawn Gymro ‘to myn diain i ‘Dy ni ddim ishe snob. Pan gododd mami fyny Bron a mynd o’i cho’, A dadi yntau’n ‘shaky’ Mor wyn a bwci bo. Yn sydyn, des o’m trwmgwsg, A’r siom a gefais I, Yr arwisgo wedi paso A hwn yw’n Prince bach ni. Ken Thomas