Skip to content

Mawrth 2007

    Croesawodd y Cadeirydd, Robert James, Beca, y siaradwr gwâdd am fis Chwefror, sef Y Bon. John Jones, nawr o ardal Llanllwni. Bu’n sôn am hanes ei fywyd amrywiol. Yn ystod ei blentyndod, Saesneg yn unig o ardal y cymoedd oedd ganddo; ar ôl hynny, yn y Gogledd, iaith hollol Gymraeg a fu’n dipyn o sioc iddo, ond fe ddysgodd yr iaith ymhen amser. Bu ei yrfa yn ddiddorol ers hynny yn ardaloedd Llandeilo, Llandysul a Cenarth ac wedi mwynhau dysgu’r Gymraeg, gwahanol ei hacen, mewn llawer ardal. Ymysg yr holl bethau yma, mae wedi dysgu hedfan ac yn beilot preifat awyrennau ac hofrenyddion ac fe gafwyd hanes am llawer o’i brofiadau yn ystod ei ymarfer. Diolchwyd iddo, ar ran y gangen, gan Laurie Bowen. Diolch i Robert a’r staff am y cawl a’r croeso. Rydym yn lwcus iawn, fel cangen, am y cyfleusterau hyn.