Skip to content

Mai 2022

    I orffen y tymor eleni ar y 5ed o Fai, aeth yr aelodau ar daith ddirgel a drefnwyd gan Mel Jenkins, ein swyddog adloniant. Ar ôl teithio ar yr M4 am ryw ddwy awr, datgelwyd y lleoliad yr oeddwn yn ymweld â hi, sef Maenordy a gerddi Llancaiach Fawr, ger Nelson, Treharris.

    Adeilad prydferth a gafodd ei adeiladu yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg ar gyfer Dafydd ap Richard ac a ddyluniwyd fel bod modd ei amddiffyn yn hawdd yn ystod teyrnasiad cythryblus y Tuduriaid. Mae’r Maenordy wedi ei ddodrefnu a’i gyflwyno fel yr oedd yn ystod y Rhyfel Cartref yn 1645.

    Taith hanes oedd hwn a dangoswyd holl ystafelloedd y maenordy gan dywyswyr gwahanol i bob ystafell oedd wedi gwisgo yn nillad y cyfnod ac yn cyflwyno gwybodaeth a sylwadau fel petaent yn byw ac wedi eu cyflogi yn ystod y cyfnod gan feistr y tŷ. Dechreuwyd y daith yn y ceginau, ac ymlaen i ystafell  ble byddai llysoedd yn cael eu cynnal (nid o reidrwydd llysoedd barn); ystafell fyw’r teulu; ystafelloedd gwely ac yn ddiddorol iawn, yr ystafell arfogaeth lle’r oedd yr holl arfau yn cael eu cadw. Un ffaith ddiddorol, mae’n nhw’n dweud fod ysbrydion yn y tŷ gyda staff ac ymwelwyr yn honni eu bod wedi cael profiad o hyn!

    Taith ddiddorol dros ben gyda’r tywyswyr yn dod a llawer o hiwmor i mewn i’w cyflwyniadau. Yn ogystal, mae’r safle yn cynnal gweithgareddau o bob math, yn cynnwys priodasau, cynadleddau, tŷ bwyta a siop grefftau.

    Maenordy Llancaiach Fawr

    Cafwyd pryd blasus o fwyd ar y ffordd adref a cyn i bawb wahanu, diolchodd Claude James, y Cadeirydd i Mel am drefnu’r diwrnod ac i swyddogion y gangen am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Iau, y 1af o Fedi, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.