Skip to content

Mai 2019

    I orffen y tymor eleni aeth yr aelodau, yn ôl eu harfer, ar wibdaith. Y gyrchfan y tro hwn oedd y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Gwnaed y trefniadau gan ein Swyddog Adloniant, Mel Jenkins ac roedd wedi archebu tocynnau a threfnu ‘tywysydd’ ymlaen llaw

    Sefydlwyd y Bathdy yn Llantrisant yn 1968 ac mae’r diolch am hynny i’r Aelod Seneddol dros Gaerdydd, Jim Callaghan (a sicrhaodd bod y Sefydliad yn dod i Gymru.)
    Er bod y Bathdy yn Llantrisant ers 1968, dim ond yn 2006 y cafodd ei agor i’r cyhoedd.
    Mae ‘na arddangosfa wych o hanes y Bathdy Brenhinol lawr dros y canrifoedd ac mae’r broses gyfredol o fathu darnau arian yn anhygoel!
    Mae’r Bathdy yn cynhyrchu darnau arian i wledydd dros y byd i gyd, yn ogystal â Medalau i’r Lluoedd Arfog. Roedd y tywysydd yn brofiadol dros ben a chafwyd amser diddorol iawn yn ei gwmni. Diolchwyd iddo gan y Cadeirydd cyn mynd i gael cwpaned yn y caffi. Yn ôl wedyn i gael swper blasus iawn yn Nhafarn y Bont, Llangennech.

    Cyn dechrau’r daith am adref, diolchodd y Cadeirydd, Claude James, i Swyddogion y gangen am eu gwaith yn ystod y tymor – i Verian Williams (Ysgrifennydd) am drefnu siaradwyr gwych yn fisol; Dewi James (Trysorydd); Mel Jenkins (Swyddog Adloniant); Ithel Parri-Roberts (cynrychiolydd y gangen ar y Pwyllgor Cenedlaethol). Wrth gwrs, mae’r aelodau i gyd yn diolch i Claude James, Y Cadeirydd, am lywio’r cyfarfodydd yn ystod y tymor.
    Diolch hefyd i Phil a Susan am eu croeso i Lolfa’r Clwb Rygbi, i gynnal y cyfarfodydd.

    Diolch yn bennaf i’r aelodau am eu ffyddlondeb i’r cyfarfodydd ac edrychwn ymlaen at ddechrau’r tymor newydd ym mis Medi.

    Yr aelodau tu allan i’r Bathdy Brenhinol –
    ond ble mae Ithel a Claude ?