Skip to content

Mai 2018

    Ar y 3ydd o Fai, i orffen am y tymor eleni, aeth yr aelodau ar ei ‘Taith Ddirgel’ flynyddol.

    Ar ôl cyrraedd Caerfyrddin a’r bws yn mynd am yr M4, dyma Mel Jenkins (Trefnydd y Noson) yn cyhoeddi mai’r lle arbennig i ymweld ag ef oedd Capel y Tabernacl, Treforys.

    Cafwyd braslun o hanes y Capel pwysig hwn ganddo, wrth deithio. Disgrifiad gwr o’r enw Anthony Jones yn ei lyfr ‘Welsh Chapels’, wrth son am y Tabernacl oedd “Y mwyaf a’r Crandier (a’r Drytaf) a adeiladwyd yng Nghymru”.
    Mae Arweinyddion Dinesig a’r Llywodraeth wedi ymuno yn y dathliadau i nodi mai Tabernacl, Treforys yw hoff gapel neu eglwys Cymru.

    Wedi cyrraedd y Tabernacl, cafwyd croeso mawr gan yr Ysgrifennydd Mr David Gwyn John a roddodd ychydig mwy o hanes y Capel, cyn i ni agor y drws a mynd i mewn. Yr hyn oedd yn ein taro yn syth oedd maint y lle – anferth ac yn eistedd 1,500 o bobl.

    Yn uchel, tu ôl i’r pulpud, oedd pibau’r organ a chafwyd yr anrhydedd i gyfarfod y cerddor a’r organydd, Huw Tregelles Williams a gwrando arno’n rhoi datganiad o bedwar darn ar yr organ. Bu’n rhoi hanes yr organ wedyn, o’r amser y gosodwyd hi yn 1922 i’r adeg yr adferwyd hi yn 1998, trwy gymorth ‘grant’ sylweddol Treftadaeth y Loteri.
    Yr ail organ yw hon, y cyntaf wedi dod o’r hen gapel (Libanus) pan godwyd y Tabernacl yn 1872.
    Cafwyd rhydd hynt i fynd o amgylch pob man yn y Capel, cyn mynd lawr i’r festri am gwpanaid o de a gweld arddangosfa o hanes adeiladu, cynnal a chadw’r adeilad, ac wrth gwrs, gweinogion y Capel. Bu David Gwyn John, a oedd yn wybodus iawn, yn egluro pob agwedd o’r hanes.
    Aeth yr amser yn gyflym iawn a chyn gadael, diolchodd Mel Jenkins i’r Ysgrifennydd ac hefyd i Huw Tregelles Williams am eu croeso, heb anghofio gwragedd y capel am ddarparu’r te.

    I ddiweddu’r noson aethpwyd ymlaen i Dafarn y ‘Bridge’ yn Llangennech am bryd rhagorol o fwyd.
    Cyn gadael, diolchodd y Cadeirydd, Claude James, i Mel Jenkins (y Swyddog Adloniant) am drefnu taith hynod o ddiddorol; hefyd i Swyddogion y gangen sef Verian Williams (Ysgrifennydd), Dewi James (Trysorydd) ac i Ithel Parri Roberts (ein cynrychiolydd ar y Pwyllgor Cenedlaethol) am eu gwaith yn ystod y flwyddyn heb anghofio’r aelodau am fynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd.

    Yr aelodau tu allan Capel Y Tabernacl, Trforys

    Edrychir ymlaen am dymor 2018/19 a fydd yn dechrau ym mis Medi.

    r