Skip to content

Mai 2013 – Taith i Fryste

    Diolch yn fawr i Cynwyl Davies am sicrhau arian o Gronfa Arian i Bawb a threfnu trip i ymweld â Phont Clifton, Bryste ac yna ymlaen i “Oakham Treasures”, Portbury. Yno roedd Amgueddfa o hen dractorau, peiriannau a nwyddau welwyd mewn siopau slawer dydd a llawer mwy. Wedi treulio sawl awr yno teithio yn ôl i Bontlliw lle cafwyd pryd o fwyd blasus yn Nhafarn y Buck.