Skip to content

Mai 2013 – Taith Ddirgel

    Diolch yn fawr i Mel Jenkins am drefnu’r daith ddirgel ddechrau mis Mai. Ymwelwyd â storfa Castell Howell yn Crosshands a chafwyd croeso cynnes yno a gweld fideo yn dangos sut oedd y busnes wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd; hefyd sut oedd yr archebion yn cael eu paratoi. Diolchodd y Cadeirydd, Eric Hughes i’r Cwmni am y croeso ac i orffen y noson cafwyd pryd o fwyd blasus yn y ‘Prince of Wales’, Porthyrhyd.