Skip to content

Mai 2012

    Taith Ddirgel Blynyddol Aeth yr aelodau ar y daith ddirgel flynyddol ar brynhawn Sadwrn, Mai 12fed. Cawsom ein tywys i eglwys y carcharorion Henllan ger Llandysul lle roedd James Thomson a Jon M.O. Jones yno i’n croesawu. Bu’r ddau yn olrhain hanes y carchar rhyfel ac yn adrodd nifer o hanesion difyr i ni. Uchafbwynt yr ymweliad oedd cael gweld yr hen gaban carchar cafodd ei drawsnewid i eglwys Gatholig gan y carcharorion. Soniwyd sut gwnaeth un o’r carcharion, crwt ifanc o’r enw Mario Flarletti fynd ati i weithio paent ei hunan a peintio ffrescos cywrain ar y muriau. Bu’r carcharorion arall yn creu’r allor allan o hen duniau, cardfwrdd ac ati. Diolchwyd i James Thomson a Jon M O Jones gan y cadeirydd Lyn Howells a cyflwynwyd rhodd ariannol o £50 tuag at gostau cynnal a chadw’r eglwys. Ymlaen a ni oddi yno i Amgueddfa Bwer (Internal Fire Museum of Power) ger Tanygroes. Gwelwyd arddangosfa wych o hen beiriannau a pympiau yma ac roedd pawb yn rhyfeddu at y casgliad eang ac amrywiol . Cafwyd gyfle i gymdeithasu dros ddished cyn galw am swper blasus tu hwnt yn nhafarn y Pentre yn Llangrannog. Cafwyd gwledd yma a phawb wedi mwynhau’r arlwy yn fawr, diweddglo perffaith i daith fydd yn aros am amser hir yn y cof. Diolch i Mike a’i staff yn nhafarn y Pentre, i Eurfyl am drefnu’r daith ac i Gareth am ein tywys yn ddiogel ar fws Jones Login.