Skip to content

Mai 2010

    Cynhaliwyd chweched cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Ebrill 28ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Gareth Griffiths cyn iddo groesawu gwr gwadd y noson sef un o’r aelodau Eurfyl Lewis. Bu Eurfyl yn rhoi hanes ei daith gerdded ym Mhatagonia i ni ac yn dangos lluniau o’r ymweliad. Cafwyd noson ddiddorol yn ei gwmni a diolchwyd iddo gan Huw Griffiths. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – hyfryd iawn! Taith i Gaerdydd Teithiodd yr aelodau i Gaerdydd ar fore Sadwrn, Mai 8fed. Cawsom ein tywys o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru gan ferch o’r enw Elen oedd yn llawn brwdfrydedd. Cawsom gyfle i ddysgu llawer am yr adeilad ynghyd a’r amrywiol weithgareddau sy’n cael eu cynnal yno yn ogystal a holi llawer o gwestiynau iddi. Yn y prynhawn buom yn ymweld a’r Senedd ac yma eto cael ein tywys o amgylch yr adeilad gan berson brwdfrydig o’r enw Richard Jones, yntau wedi graddio mewn gwleidyddiaeth felly yn ddysgiedig iawn yn y maes. Bu yntau hefyd yn esbonio sut cafodd yr adeilad ei gynllunio yn ogystal a dangos y Siambr i ni. Diolchwyd i Elen a Richard am ymweliadau diddorol gan ein Cadeirydd Gareth Griffiths. Aethom allan ar gwch o gwmpas Bae Caerdydd wedyn a gweld sut mae’r ardal hon wedi ei thrawsnewid yn gyfan gwbl gyda’r holl ddatblygu / adeiladu sydd wedi cymryd lle yn ystod y bump i ddeg mlynedd diwethaf – rhyfeddol! Teithio am adref a galw mewn am swper blasus yn nhafarn Newydd Meidrim. Diolchodd Huw Griffiths i Christophe am y bwyd blasus a diolchodd Ken Thomas i Eurfyl am drefnu’r daith ac i Hubert am ein tywys adref yn ddiogel. Ariannwyd y daith gan Arian i Bawb ac roedd yr aelodau yn unfrydol fod y daith wedi bod yn un addysgiadol a diddorol.