Skip to content

Mai 2010

    I diweddu’r tymor cafwyd noson fendigedig a drefnwyd gan y Swyddog Adloniant, Mr. Ronnie Howells. Eleni buom yn ymweld â ‘Gwasg Gomer’ yn yr adeilad newydd yn Llandysul lle cafwyd groeso twymgalon gan berchennog y Cwmni. Fe welwyd yr holl beirianwaith sy’n gysylltiedig â’r gwaith argraffu o bob math. Diolchwyd ar ran aelodau’r gangen gan y Cadeirydd, Mr. Ithel Parri Roberts. Hoffem ddiolch yn arbennig i Mr. Ronnie Howells am ei waith trylwyr ar hyd y flwyddyn – nid yw wedi ein siomi unwaith!