Skip to content

Mai 2009

    Bu BBC Radio Cymru yn recordio dwy raglen o Talwrn y Beirdd yng nghaffi Beca ar wahoddiad yr Hoelion Wyth ar nos Fawrth, Ebrill 14eg. Y meuryn fel arfer oedd Gerallt Lloyd Owen a bu tîm Beca yn ymryson yn erbyn tîm Aberhafren o Gaerdydd a tîm y C[ps o Aberystwyth yn erbyn y Rhelyw o Gaerfyrddin. Cafwyd ymdrech lew gan y tîm lleol ond ail daethant y tro hwn. Cyfarfu’r Hoelion yn ol eu harfer yng nghaffi Beca Efailwen a hynny ar nos Fercher, Ebrill 29ain. Croesawyd pawb ynghyd gan yr is gadeirydd Gareth Griffiths ac yntau hefyd gyflwynodd y g[r gwâdd sef y Parchedig Jeffrey Gainer o Meidrim. Mae Jeffrey wedi teithio’n helaeth ac yn medru siarad nifer o ieithoedd. Cawsom noson ddiddorol yn ei gwmni wrth iddo siarad am Lydaw â’r cysylltiad agos â Chymru. Diolchwyd iddo gan Eurfyl Lewis ac yna bu pawb yn mwynhau basned o gawl arferol a wnaed gan Robert. Cynhaliwyd y daith ddirgel ar nos Wener, Mai 8fed i gloi gweithgareddau’r Tymor. Ymwelwyd a gorsaf dân Crymych ac yno i’n croesawu roedd Euros Edwards. Cawsom ein tywys o gwmpas ganddo a bu yntau’n esbonio’n fanwl sut mae popeth yn gweithio ar yr injan dân. Roedd hi’n agoriad llygad i weld yr holl offer ac adnoddau a chawsom amser diddorol iawn yn ei gwmni. Treuliwyd gweddill y noson yn cael pryd o fwyd a chymdeithasu yn y Crymych Arms. Diolchwyd i Euros, i Meima a Pat am y bwyd bendigedig, i Gary Bevan am yrru’r bws ac i Eurfyl am drefnu’r noson. Bydd yr Hoelion yn cyfarfod nesaf ar nos Fercher, Medi 30ain.