Skip to content

Mai 2009

    I ddiweddu’r tymor trefnwyd Taith Ddirgel gan Mr. Ronnie Howells, yr Ysgrifennydd Adloniant. Diolch yn fawr iddo am wneud hyn bob blwyddyn ers amser maith ac ni’n siomwyd un waith! Eleni, ymwelwyd â Chanolfan Llwyau Caru yn Cold Inn, Sir Benfro ac fe gafwyd amser diddorol dros ben yno. I ddiweddu’r noson, cafwyd pryd o fwyd blasus yn y Begelly Arms (yn enwedig yr aelodau a gafodd y ‘cheesecake’) !