Skip to content

Ionawr 2024

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd ar nos Iau, 4ydd o Ionawr yn lolfa’r Clwb Rygbi. Croesawyd pawb yn gynnes gan y cadeirydd, Claude James ond cyn cyflwyno’r siaradwr gwadd dymunodd Claude, ar ran yr aelodau, ddymuniadau gorau i Huw Davies, Pwll Trap, un o’n aelodau ffyddlonaf, sydd, oherwydd afiechyd, wedi ymgartrefi yng nghartref Maes Llewellyn, Castell Newydd Emlyn. Hefyd llongyfarchwyd Tegwyn Williams ar ei ddyweddiad â Margot Jones.

    Ein siaradwr gwadd mis yma oedd ein cynrychiolydd yn Senedd Cymru sef Sam Curtz. Etholwyd Sam i’r Senedd yn 2021 lle mae erbyn hyn yn lefarydd dros y Ceidwadwyr ar faterion Amaeth a Chefn Gwlad yn ogystal â materion yn ymwneud â’r Gymraeg. Mae’n fab fferm o ardal Abergwaun a chafodd ei addysg gynradd ac uwchradd yn lleol ac wedyn i Brifysgol Gorllewin Lloegr ym Mriste. Yn dilyn, cafodd swydd fel newyddiadurwr gyda’r Pembrokeshire Herald a’r Western Telegraph. Cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir yn Sir Benfro dros ardal Scleddau ac ymhen pedair mlynedd etholwyd i’r Senedd. Mae wedi bod yn weithgar gyda mudiad y Ffermwyr Ifanc, wedi bod yn gadeirydd Sir Benfro ac wedi cystadlu llawer dros ei glwb ac yn genedlaethol. Mae diddordeb mawr ganddo mewn chwaraeon ac yn chwarae Criced, Golff, Peldroed a Rygbi.

    Cawsom gyflwyniad ganddo yn amlinellu ei yrfa wleidyddol ers ei ethol yn ifanc ar gyngor Sir Benfro  ac wedyn i’r Senedd. Aeth rhan fwyaf o’r amser mewn sesiwn holi ac ateb lle gofynnwyd iddo am ei safbwynt  ar amryw o bynciau llosg yn ymwneud â Chymru a’r DU a chawsom atebion cynhwysfawr ac onest ganddo. Un peth a ddaeth drosodd yn amlwg oedd ei gefnogaeth llwyr i amaeth ac amaethwyr Cymru. Cyflwyniad a sgwrs hynod ddiddorol a diolchwyd iddo ar ran yr aelodau gan Trefor Evans.