Skip to content

Ionawr 2023

    Ein gŵr gwadd cyfarfod Ionawr oedd Teifryn Williams, un o blant y Nobl, Efailwen sydd bellach yn byw yn Aberdaugleddau, Croesawyd ef gan Eifion Evans a chroesawyd hefyd dau aelod newydd i’r Hoelion, sef Hefin Wyn a Brian Thomos.

    Ers yn ifanc iawn mae Teifryn wedi mwynhau teithio a dilyn trywydd teithwyr arall.  Hanesion rhai o’i deithiau a’i brofiadau cawsom ganddo yn ei gyflwyniad hamddenol a direidus. Mae yn un sy’n cadw dyddiadur ac yn hoff iawn o ddefnyddio gwybodaeth o ddyddiaduron wrth grwydro.

    Dechreuodd deithio yn ddyn ifanc, ar ei feic yn 1961 gan fanteisio ar aros mewn hosteli ar gyfer pobol ifanc. Ei gyllideb bryd hynny oedd 10 swllt y dydd. Ar ôl priodi a chael plant teithio mewn hen ‘dormobile’ bu’n gwneud a gwnaeth hyd yn oed mentro mor bell â Ffrainc. Roedd ei ffrindiau yn methu credu ei fod mor fentrus i neud hyn mewn hen groc o beth. Roedd y peiriant yn torri lawr yn aml ond roedd Teifryn wastad yn dod i ben a’i drwsio!

    Aeth i’r Brifysgol Aberystwyth fel myfyriwr aeddfed i astudio Sbaeneg – cyfnod oedd fod para 4 mlynedd, gyda blwyddyn yn Sbaen ond fe wnaeth ymestyn ei gyfnod yn Sbaen i ddwy flynedd. Erbyn diwedd y cyfnod roedd yn medru’r Sbaeneg yn o lew.  Tra yn Sbaen bu’n dilyn llwybr enwog y pererin i ddinas Santiago de Campostela, lle hanesyddol lle credir y claddwyd gweddillion yr apostol Iago. Hefyd yn ystod ei gyfnod fe gyfarfu â merch ifanc a oedd yn wreiddiol o Batagonia. Fe wnaeth hi roi enw cyswllt iddo i’w ddefnyddio os bydde fyth am fentro i’r Wladfa. Enw’r cyswllt oedd Gweneira Davies de González de Quevedo, un o dair o wragedd a gyfrannodd gan rannu cyfoeth diwylliannol y Wladfa at y gyfrol “Yr Etifeddiaeth Deg”

    Yn 2008 glaniodd yn Buenos Aires, Ariannin ac wedyn teithiodd ar fws i Bariloche ger mynyddoedd yr Andes, gan dreulio ychydig amser yno  cyn mynd mlaen i Drelew yn Y Wladfa. Yno fe wnaeth gyfarfod â Gweneira a chael lle i aros gyda rhieni’r ferch a gyfarfu yn Sbaen flynyddoedd ynghynt.

    Buodd am gyfnod yn dilyn crwydradau’r awdur a’r hanesydd Ambrose Bebb o gwmpas Llydaw a hynny ar feic gan aros mewn pabell

    Bu diddordeb mawr gyda fe yn hanes Joseph Jenkins brodor a anwyd yn ardal Tregaron yn 1818. Gadawodd Joseph ei fferm a’i deulu pan yn 50 oed a mynd i grwydro Awstralia. Tra yno cadwodd ddyddiadur a gafodd ei addasu yn ddiweddarach i lyfr o’r enw ‘The Diary of a Welsh Swagman’.  Fel Joseph mae Teifryn hefyd wedi crwydro o gwmpas Awstralia ac yn bwriadu mynd yno eto cyn bo hir.

    Cawsom noson yn llawn hwyl yn ei gwmni a diolchwyd iddo am y cyflwyniad gan Eifion. Diolch hefyd i Robert Caffi Beca am y croeso cynnes a’r cawl blasus.