Skip to content

IONAWR 2023

    Yn anffodus, oherwydd Covid, nid oedd yn bosib i’n siaradwr gwadd fod yn bresennol. Ar fyr rybudd, daeth un o’r aelodau sef Trefor Evans i’r adwy. Yr hyn gawsom gan Trefor oedd hanes ei fywyd dros 70 mlynedd. Cardi yw Trefor a bu yn mynychu Ysgol Gynradd Llanbed ac oherwydd swydd ei dad gydag un o’r banciau, bu hefyd yn byw yn wahanol drefi ac ardaloedd yng Nghymru fel Llanfyllin a Llanfair Caereinion a chafwyd hanesion difyr o’r adegau yma.

    Roedd Trefor am fod yn athro Cynradd a bu yng Ngholeg Caerdydd yn cael hyfforddiant a mwynhaodd ei amser yno gan rannu’r amser rhwng yr hyfforddi a’r chwaraeon a chael ei ddewis i gynrychioli’r Coleg. Mewn amser yn 70au cafodd Cyril, tad Trefor ei benodi yn rheolwr ar Fanc Nat West yn Hendy-gwyn a symudodd y teulu lawr ac ymgartrefu yn y dref. Cafodd Trefor swydd dysgu yn Ysgol Iau, Hendy-gwyn ac yn ddiweddarach yn yr Ysgol Gynradd fel dirprwy bennaeth. Wedyn cafodd ei benodi yn bennaeth Ysgol Bancyfelin a bu yno am 12 mlynedd cyn cael ei benodi yn bennaeth Ysgol Gynradd Hendy-gwyn, cyn, ar ôl dwy flynedd, ymddeol a mynd i weithio yn swyddfa Bysiau Cwm Taf.

    Fel y gwŷr pawb, mae gan Trefor ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, yn cynnwys Criced, Rygbi a Phêl-droed ac mae wedi bod yn swyddog blaenllaw ym mhob un. Ar hyn o bryd mae’n ddyfarnwr criced a hefyd yn hyfforddi dyfarnwyr newydd.

    I orffen dangosodd ychydig luniau pan dreuliodd dros dair wythnos o wyliau yn America a Chanada.

    Cafwyd noson ddifyr iawn yn ei gwmni a diolchwyd iddo ar ran yr aelodau gan Mel Jenkins.