Skip to content

Ionawr 2020

    Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Ionawr oedd Edward John – bachgen o Hendygwyn. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gynradd leol, Ysgol Bro Myrddin ac wedyn ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Fferylliaeth.
    Mae’i rieni yn byw yn Hendygwyn lle mae’i dad yn berchen ar Gwmni Cyfrifyddion.

    Mae Edward yn gricedwr o fri, wedi chwarae dros Hendygwyn ac i Gymru – ei uchelgais ar un adeg oedd bod yn gricedwr proffesiynol.
    Bu’n gwneud profiad gwaith gyda Chris Jenkins, fferyllydd yn San Cler ac ar ôl graddio aeth i weithio, am flwyddyn, gyda BOOTS. Aeth nôl i’r Coleg wedyn i astudio’r gyfraith.
    Yna bu’n gweithio gyda Boots a bu’n Reolwr ar ganghennau (yn cynnwys Hendygwyn) cyn cael dyrchafiad i reoli cangen fawr, yn gyfrifol am dros 40 o staff.

    Roedd yn dyheu am fod yn berchen ar fferyllfa ei hun ac ymhen amser, cafodd gyfle i brynu busnes fferyllfa Clunderwen. Nid oedd yr adeilad presennol ar gael iddo felly rhaid oedd cael lle addas yn y pentref a’i droi yn fferyllfa a chafodd gyfle i wneud hynny.

    Ers iddo agor, mae wedi bod yn llwyddiant mawr iddo ac roedd yn canmol ei staff yn fawr iawn. Ma e ganddo ystafelloedd ychwanegol yn y fferyllfa lle mae arbenigwyr yn rhoi gwasanaeth fel ffisiotherapi a.y.y.b.

    Mae’n bwriadu mynd nôl i’r Brifysgol yn y dyfodol agos i ehangu ei wybodaeth am gyflwr Pwysau Gwaed

    Yr oedd yn gyflwyniad arbennig a diolchwyd iddo, yn ogystal â’i longyfarch, gan Trefor Evans – ei gyn-athro yn yr ysgol gynradd.