Skip to content

Ionawr 2018

    Y siaradwr gwadd yng nghyfarfod cyntaf 2018 ar Ionawr 4ydd, oedd Ysgrifennydd y gangen, sef Verian Williams.  Llanw bwlch ar fyr ryubudd oedd Verian oherwydd bod y siaradwr gwadd wedi methu dod oherwydd salwch.  Estynnwyd croeso iddo gan y Cadeirydd gan ddiolch iddo am y gymwynas.

    Soniodd yn gyntaf am ei ddiddordeb yn y Cyfrifiadur a chwilio’r We.  Un o’i hoff safleoedd yw gwefan y Llyfrgell Genedlaethol gan chwilio hen bapurau newyddion.  Cafodd afael ar erthygl di-enw yn hen gopi deddfau’r 20fed ganrif o’r ‘Tenby Observer’ o’r enw ‘The Prodigious Welshman’.  Darllenodd ychydig o’r erthygl (a oedd drwyddi draw yn dilorni a bychanu’r Cymry a’r iaith Gymraeg.)  Dim rhyfedd bod yr awdur am fod yn ddi-enw. 

    Roedd Verian wedi dod â bocs yn cynnwys trugareddau o ddiddordeb personol iddo – amryw o’r pethau wedi dod lawr i’w feddiant o genhedlaeth i genhedlaeth.

    Dangosodd ‘Death Penny’ yn deillio o’r Rhyfel Byd cyntaf.  Yn debyg i geiniog fawr, roedd teulu yn derbyn un o’r rhain os byddai aelod wedi’i ladd neu yn marw yn ystod y rhyfel. 

    Yn ddiddorol, roedd tadcu Verian yn llwyr-ymwrthodwr ac ymunodd â’r ‘Rechabites’ ym Manceinion gan addo peidio yfed alcohol.  Dangosodd dystysgrif a gyflwynwyd iddo, i brofi hyn.

    Roedd cynnwys bocs Verian yn rhy niferus i nodi, ond yn sicr roedd yr hyn o ddiddordeb iddo, yn ddiddorol iawn i’r gwrandawyr hefyd.    Diolchwyd iddo am gyflwyniad arbennig, gan Tegwyn Williams.

    Cyn gorffen y cyfarfod, penderfynwyd ar bum Achos i dderbyn rhodd o £250 yr un, yn deillio o elw’r Cyngerdd a gynhaliwyd ym mis Hydref, 2017:- 

    Canolfan Hywel Dda; Clefyd y Siwgwr (Diabetes Cymru); Tŷ Hafan; Ymchwil Cancr y Prostad (Cymru) a Cartref Preswyl Waungron, Hendygwyn.